Llanfairpwll Health Centre
Llanfairpwll,
Anglesey LL61 5YZ
Ffôn: 01248 714388
Ffacs: 01248 715826
Penbryn Surgery
Dwyran, Llanfairpwll,
Anglesey LL61 6YD
Ffôn: 01248 430253
Ffacs: 01248 430092
Eich gofal iechyd, yn unrhyw le. Gydag ap GIG Cymru.
GIG 111
Ar-lein. Ar y ffôn.
Cyngor gofal iechyd y gallwch ymddiried ynddo 24/7
111.gig.cymru
Sut i gysylltu â ni os ydych yn drwm eich clyw
Mae gen i golled clyw ac mae ffonio’r feddygfa yn anodd i mi
Os byddwch yn cael trafferth ffonio’r feddygfa gallwch ebostio’r dderbynfa ar y cyfeiriad ebost canlynol a byddwn yn cysylltu â chi. reception.w94015@wales.nhs.uk. Os nad ydych yn defnyddio ebost, gallwch alw i mewn i siarad â’r dderbynfa neu ysgrifennu atom. Os hoffech enwebu rhywun i gysylltu â’r feddygfa ar eich rhan ysgrifennwch atom gyda’r manylion. Gallwn hefyd drefnu dehonglydd BSL - rhowch wybod i ni.
Oriau Agor
Llanfairpwll
Oriau agor y dderbynfa: |
Llun, Maw, Mer, Gwen |
8.00yb i 6.00yc |
Ffôn |
8.00yb i 6.30yc |
Dwyran
Oriau agor y dderbynfa: |
Llun, Maw, Iau, Gwen |
8.00yb i 6.00yc |
Ffôn |
8.00yb i 6.00yc |
Mercher (hanner diwrnod) |
8.00yb i 2.00yc |
Ffôn |
8.00yb i 1.00yc |
Mae’r feddygfa’n cynnig gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan gytundeb gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ym 1976 agorwyd meddygfa a adeiladwyd yn bwrpasol yn Nwyran ac ym 1980 agorwyd y Ganolfan Iechyd yn Llanfairpwll. Mae’r tîm meddygol yn gwasanaethu cymuned De Orllewin Ynys Môn yn y ddwy ganolfan yma. Gweler y map amgaeedig sy’n manylu ardal y feddygfa.
Mynediad i'r anabl
Mae mynediad i’r anabl ym meddygfeydd Llanfairpwll a Dwyran, gofynnwch os byddwch angen cymorth.
Darperir pob gwasanaeth ar y llawr gwaelod ac mae rhamp a mynediad i gadair olwyn i’r feddygfa.
Os bydd unrhyw glaf anabl yn cael anhawster, byddwn yn hapus i ystyried awgrymiadau ar gyfer gwella.
Manylion gwasanaethau meddygol ar Ynys Môn ar gael gan:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Eryl Don, Ffordd Campbell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HU
www.bcu.wales.nhs.uk