(Goruchwyliaeth penwythnos a min nos ar gyfer problemau brys yn unig)
Ar ôl 6.30pm tan 8.00am, dydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy’r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus
Mae’r gwasanaeth allan o oriau i gleifion sydd angen gweld meddyg ar frys ac sy’n methu aros nes bydd y feddygfa’n agor.
Y rhif i’w ffonio yn ystod y cyfnod allan o oriau yw 111 (GIG 111)
Os byddwch yn ffonio rhif arferol y feddygfa, bydd neges wedi’i gofnodi’n rhoi’r rhif argyfwng i chi.
Bydd gweithiwr proffesiynol hyfforddedig yn ateb eich galwad a bydd yn asesu eich anghenion unigol ac yn penderfynu ar y camau priodol i’w cymryd.
Llinell gymorth gyfrinachol 24 awr yw GIG 111. Gall y llinell gymorth gynnig cyngor a gwybodaeth ar:
- Gweld deintydd ar gyfer problemau deintyddol arferol neu frys
- Beth i’w wneud os byddwch yn teimlo’n sâl
- Pryderon am eich iechyd chi a’r teulu
- Gwasanaethau iechyd lleol
- Sefydliadau hunan-gymorth a chefnogi
Gallwch ymweld â www.111.wales.nhs.uk hefyd.
Os bydd yna ddamwain neu argyfwng, ffoniwch y gwasanaeth argyfwng ar 999. Dywedwch wrth y Gweithredwr pa wasanaeth argyfwng rydych ei angen ac archoswch iddo/iddi eich cysylltu. Dywedwch wrth y gwasanaeth argyfwng ble mae'r broblem, beth yw'r broblem a ble rydych chi a rhif y ffon rydych yn ei defnyddio. Peidiwch byth a gwneud ffug. Gallech beryglu bywydau eraill sydd angen cymorth go iawn ac mae yn erbyn gyfraith. Hefyd, gellir dod o hyd i chi ar unwaith ger y ffon ble gwnaed yr alwad.
Fferyllfa - os bydd angen fferyllfa hwyr arnoch, mae pob fferyllfa yn yr ardal yn arddangos rota sy'n rhoi manylion pwy sydd ar agor (fel arfer yn eu ffenestr flaen), neu cysylltwch â GIG 111.