Beth i'w ddisgwyl gan eich meddygfa leol
Pan fyddwch chi'n cysylltu a'ch meddygfa, byddwch chi'n cael eich trin yn deg ni waeth pa ddull cysylltu a ddewiswch.
Os byddwch yn dewis cysylltu a'ch meddygfa dros y ffon, bydd galwadau'n cael eu hateb gan aelod hyfforddedig o staff a fydd yn asesu eich anghenion clinigol.
I wneud yn siwr eich bod yn cael y cymorth gorau, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arall - bydd y rhesymau am hyn yn cael eu hesbonio'n glir ichi.
Pan fo mynediad at wasanaeth (e.e. ymgynghoriad} yn glinigol briodol, byddwch yn cael eich asesu ac yn cael cynnig ymgynghoriad priodol, ar amser priodol heb fod angen ffonio'n ol. Gall hyn olygu bod apwyntiad yn cael ei drefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol ond bydd yn gyson a'ch angen clinigol a aseswyd.
Byddwch yn gallu cysylltu a'ch meddygfa drwy wasanaeth ar-lein a derbyn gwasanaeth tebyg i'r rhai sy'n dewis ffonio.
Bydd eich meddygfa yn agored ac yn onest am y gwasanaethau a gynigir, sut i gael gafael arnynt a sut i gael mynediad at wasanaethau ychwanegol neu eraill pan fo angen.