Ail-bresgripsiynau a gwasanaethau dosbarthu
Os bydd y meddyg yn penderfynu bod angen meddyginiaeth rheolaidd arnoch, bydd yr eitemau hyn yn cael eu hychwanegu at eich rhestr ail-bresgripsiwn.
Mae’r rhan fwyaf o bresgripsiynau ar gyfer cyflenwad o 28 diwrnod, ac rydym yn argymell eich bod yn ail-archebu ar ddiwrnod 21.
Byddwn yn rhoi ffurflen gais am ail-bresgripsiwn i chi.
Ticiwch yr eitemau sydd eu hangen arnoch ar y rhestr.
Os nad oes gennych eich ffurflen gais neu os ydych wedi’i cholli, ysgrifennwch eich enw, dyddiad geni, rhif ffôn cyswllt a rhestr o’r eitemau sydd eu hangen arnoch ar ddarn o bapur.
Sut ydw I...
... yn gwneud Cais am Ail-Bresgripsiwn ym meddygfa Dwyran?
Mae 4 dull o wneud cais am ail-bresgripsiwn:
- Archebwch o’ch cyfrifiadur eich hun gartref (neu ble bynnag y boch yn y byd!) - cofrestrwch ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein. www.myhealthonline-emisweb.wales.nhs.uk
- Rhowch eich ffurflen gais ym mlwch post y feddygfa sydd ar y drws ffrynt
- Anfonwch eich cais drwy ffacs ar 01248 430092
- Postiwch eich cais i’r feddygfa, rydym yn argymell y dylech bostio eich ffurflen ar ddiwrnod 18 os ydych yn defnyddio post ail ddosbarth.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau am ail-bresgripsiwn dros y ffôn – mae’r posibilrwydd o gamgymeriadau yn rhy gryf. Peidiwch â gofyn am eitemau ail-bresgripsiwn pan fyddwch yn ymgynghori â’r meddyg neu’r nyrs. Mae’n mynd ag amser prin y feddygfa, ac yn tynnu oddi wrth y gwaith o ofalu am gleifion.
Helpwch ni i’ch helpu chi!
Bydd eich meddyginiaethau yn barod i’w gasglu 5 diwrnod gwaith o’r adeg i chi gyflwyno’ch cais.
Rydym yn awgrymu y dylech gadw at yr amserlenni canlynol:
- Gwneud cais dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun, casglu y dydd Llun canlynol
- Gwneud cais dydd Mawrth, casglu y dydd Mawrth canlynol
- Gwneud cais dydd Mercher, casglu y dydd Llun canlynol
- Gwneud cais dydd Iau, casglu y dydd Mawrth canlynol
- Gwneud cais dydd Gwener, casglu y dydd Mercher canlynol
- Bydd ceisiadau drwy Fy Iechyd Ar-lein dydd Sadwrn neu ddydd Sul yn cael eu prosesu dydd Llun felly gallwch eu casglu y dydd Llun canlynol
- Bydd ceisiadau gan Fy Iechyd Ar-lein ar ŵyl gyhoeddus yn cael eu prosesu ar y diwrnod gwaith nesaf felly, fel yr uchod.
Mae’r fferyllfa ar agor o 8.00am tan 6.30pm dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener ac 8.00am tan 2.00pm ar ddydd Mercher. Nid ydym yn paratoi ail-feddyginiaethau y tu allan i’r oriau hyn. Nid oes gennym staff yn gweithio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na gwyliau cyhoeddus.
Ceisiwch gasglu eich ail-bresgripsiynau rhwng 11.30am a 2.30pm i osgoi’r adegau prysuraf.
Os ydych wedi gwneud camgymeriad go iawn ac wedi mynd yn brin o feddyginiaeth fe fyddwn bob amser yn ceisio’ch helpu. Pan fo’r feddygfa wedi cau, bydd rhaid i chi gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau.
Pam bod angen 5 diwrnod gwaith gwaith arnom i baratoi eich meddyginiaeth?
Pan fo cais yn cael ei wneud, edrychir ar eich cofnodion meddygol ar y cyfrifiadur i weld â yw’n bryd i chi gael adolygiad ac â yw’r eitemau y gwnaethoch gais amdanynt dal ar eich rhestr o ail-feddyginiaethau.
Os yw’n bryd am eich adolygiad byddwn yn gofyn i’r meddyg a yw’n ddiogel rhoi’r ail-feddyginiaeth cyn i chi gael eich gweld ganddo/ganddi. Os nad yw’r eitemau y gofynnwyd amdanynt ar eich rhestr o ail-feddyginiaethau, bydd rhaid i’r meddyg edrych ar eich cofnod meddygol.
Gan nad ydym yn stocio rhai meddyginiaethau byddwn yn eu harchebu’n benodol ar eich cyfer gan y cyfanwerthwr. Mae ein prif gyfanwerthwr yn galw 2 waith y dydd gyda chyflenwadau.
Pan fydd y feddyginiaeth yn cael ei dosbarthu bydd ail fferyllydd yn sicrhau ei bod yn gywir. Mae’n rhaid i’r presgripsiwn gael ei arwyddo gan y meddyg hefyd. Mae’r meddygon yn treulio amser gyda’r fferyllwyr ar ddiwedd meddygfa’r bore, weithiau gall y meddyg fod yn hwyr yn gorffen neu’n delio ag achosion brys neu ymweliadau â’r cartref, a gall hyn i gyd arafu’r broses.
Bydd problemau’n codi os bydd:
- Y cyffur yn anghyffredin ac efallai y bydd yn rhaid i’r cyfanwerthwr ei archebu gan gyflenwr arall.
- Yr ysbyty wedi newid eich meddyginiaeth ac heb roi gwybod i ni eto. Weithiau nid yw gwybodaeth ynghylch rhyddhau cleifion a llythyrau cleifion allanol yn cyrraedd mor sydyn ag y byddem yn ei ddymuno!
Ein staff
Gallwn eich sicrhau bod ein staff yn dilyn gweithdrefnau’r practis. Maen nhw yma i’ch helpu chi. Cofiwch ofyn os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich meddyginiaethau neu’r broses o gael ail-bresgripsiwn.
Cofiwch!
Mae meddyginiaethau yn gostus i’r Gwasanaeth Iechyd. Mae’n bwysig eich bod ond yn archebu’r eitemau sydd eu hangen arnoch!
Cofiwch archebu eitemau’n gynt pan fydd hi’n ŵyl gyhoeddus yn arbennig y Pasg a’r Nadolig. Bydd y pecyn/brand cyffuriau’n amrywio o dro i dro ond bydd y feddyginiaeth yr un fath â’r un a ragnodwyd.
Os ydych ar ail-feddyginiaeth gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i’r adolygiad gyda’r meddyg yn flynyddol neu yn gynt fel y cytunwyd ar eich rhaglen driniaeth.
- Cymerwch eich meddyginiaeth yn union fel y’i rhagnodwyd gan y meddyg
- Gorffennwch y cwrs, oni bai bod y meddyg yn dweud fel arall
- Darllenwch y label yn ofalus, a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y cyfarwyddiadau ar y pecyn cyn i chi adael y fferyllfa
- Cadwch feddyginiaethau o gyrraedd plant
- Peidiwch â rhannu eich meddyginiaethau gydag aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau
- Peidiwch â chymryd hen feddyginiaethau na’u cadw; ewch â nhw i’r fferyllfa i’w gwaredu.
Ychydig o sgîl effeithiau mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael o’u meddyginiaethau ac eraill yn cael dim. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod eich meddyginiaeth yn cael effaith anarferol arnoch, ewch i weld y meddyg.
Beth sy’n digwydd pan fydd meddyg o’r ysbyty yn newid eich meddyginiaeth?
Ar ôl apwyntiad claf allanol. Bydd meddyg yr ysbyty yn ysgrifennu at y feddygfa os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’ch meddyginiaeth. Bydd y feddygfa yn eich ffonio chi pan fydd y meddyg wedi adolygu’r llythyr a’r presgripsiwn yn barod i chi ei gasglu. Weithiau bydd meddyg yr ysbyty yn rhoi ‘Cais rhagnodi heb fod yn un brys’ i chi ddod gyda chi i’r feddygfa o fewn 7 diwrnod. Mae angen 48 awr arnom i gael y presgripsiwn newydd hwn yn barod i chi.
Ar ôl eich rhyddhau o’r ysbyty. Bydd clerc y ward yn yr ysbyty yn anfon nodyn rhyddhau i’r feddygfa yn dweud wrthym pa feddyginiaethau a roddwyd i chi i fynd adref ac unrhyw newidiadau i’ch ail-feddyginiaeth. Pan fydd angen mwy arnoch gallwch naill ai ofyn am ffurflen gais am ail-bresgripsiwn a rhoi tic wrth yr eitemau sydd eu hangen neu ysgrifennu eich enw, dyddiad geni, rhif ffôn cyswllt a rhestr o’r eitemau sydd eu hangen arnoch ar ddarn o bapur.
Os ydych yn ansicr neu angen arweiniad, ffoniwch y feddygfa os gwelwch yn dda. Rydym yma i’ch helpu chi.