Rheoli clefyd cronig - i glefion sy'n dioddef gan asthma, diabetes a chlefyd pwlmonaidd ataliol cronig
Mae nyrsys y feddygfa wedi eu hyfforddi’n arbennig i reoli clefyd a gwahoddir cleifion i gael adolygiad llawn o’r cyflyrau uchod bob blwyddyn. Bydd y nyrs yn adolygu meddyginiaeth, monitro afiechyd a chynnal archwiliad corfforol ac efallai y bydd yn cynnig cyngor ar ddiet a ffordd o fyw.
Efallai y byddwch angen profion gwaed cyn dod i’r clinig, hysbysir chi ymlaen llaw.
Mae’r meddygon yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r adolygiad blynyddol, ond gadewch i ni wybod os byddwch yn penderfynu peidio â bod yn bresennol. Efallai y bydd rhywun arall yn aros am apwyntiad. Byddwch yn derbyn gwahoddiad arall mewn blwyddyn; gallwch ofyn am apwyntiad yn gynt os byddwch yn newid eich meddwl. Os byddwch yn ymwybodol ei bod yn bryd i chi dderbyn adolygiad blynyddol ac nad ydych yn dymuno mynychu, hysbyswch ni yn ysgrifenedig neu arwyddwch ffurflen yn y feddygfa gan y bydd hyn yn arbed cysylltu â chi eto ar ôl blwyddyn.
Gwasanaethau erail
Ffoniwch y feddygfa i drefnu apwyntiad/i gael manylion pellach.
Cyngor Rhoi’r Gorau i Ysmygu a Therapi Cyfnewid Nicotin
Mân Lawdriniaeth
Cynllunio Teulu, Atal cenhedlu, cyngor cyn-cenhedlu
Gwasanaethau Mamolaeth (Clinigau cyn-geni ac ôl-eni)
Archwiliadau Datblygiad Plentyn
Monitro gwrth-geulo
Gwasanaeth monitro cyffuriau
Teithio ac Imiwneiddiadau Eraill
Trefnwch apwyntiad gyda Nyrs y Feddygfa o leiaf wyth wythnos cyn eich gwyliau. Bydd nyrs y feddygfa yn cynnig cyngor ar iechyd teithio a chanllawiau ar y brechlynnau a argymhellir i’r gwledydd yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw.
Sylwer nad yw rhai brechlynnau yn dod o dan y GIG a chodir tâl am y rhain. Cedwir rhestr o’r ffioedd hyn yn y dderbynfa.
Profion Ceg y Groth
Rydym yn argymell dylai'n holl gleifion benywaidd rhwng 25 a 49 mlwydd oed gael prawf gwddf y groth bob tair blynedd. Gwahoddir merched 50 i 64 mlwydd oed bob 5 mlynedd.
Byddwch yn cael eich atgoffa drwy'r post pan fydd hi'n amser i chi gael prawf. Gellir trefnu apwyntiad gyda nyrs y feddygfa.
Efallai y byddwch yn dewis eithrio o’r gofrestr galw yn ôl trwy arwyddo datganiad ysgrifenedig. Bydd Gwasanaeth Sgrinio Cymru gyfan yn eich hysbysu am ganlyniad prawf ceg y groth. Gwneir hyn o fewn pedair wythnos fel arfer. Bydd nyrs y feddygfa yn falch i siarad gyda chi os bydd gennych unrhyw bryderon.
Clinigau Brechlyn y Ffliw bob mis Hydref / Tachwedd bob blwyddyn
Argymhellir brechlyn y ffliw i bob claf dros 65 a’r sawl sy’n dioddef gan Diabetes, Clefyd yr Arennau, problemau’r Galon, Clefyd Resbiradol Cronig gan gynnwys Asthma, cleifion sy’n wrthimiwnedd a thrigolion arhosiad hir mewn cartrefi nyrsio a phreswyl.
Os byddwch yn gweithio gyda dofednod neu'n brif ofalwr person hŷn neu anabl a’i les mewn perygl petaech chi’n sâl, efallai y byddwch yn gymwys i frechlyn y ffliw.
Cysylltwch â staff y dderbynfa ar ddiwedd mis Medi i gael manylion y clinigau brechu. Os na fyddwch yn gallu dod i’r feddygfa, gallwn drefnu ymweliad â’r cartref.
Bob blwyddyn, mae’r ffliw yn achosi salwch resbiradol sy’n effeithio ar bobl o bob oed. Tra bod y salwch yn amhleserus i’r rhan fwyaf o bobl, fel arfer mae’n salwch tymor byr a heb gymhlethdodau. Fodd bynnag, dengys ymchwil i’r sawl sy’n 65 oed a hŷn neu sy’n dioddef gan yr afiechydon uchod, mae’r ffliw yn cynnwys mwy o risg o salwch difrifol, fel broncitis neu niwmonia, yn aml yn arwain at fynediad i’r ysbyty.
Brechlynnau Niwmococal
Argymhellir y brechlyn hwn i bob claf dros 65 oed a’r sawl sy’n dioddef gan:-
Glefyd y Galon Coronaidd, Problemau Resbiradol Cronig gan gynnwys rhai Asthmatig, Diabetes, clefyd arennau cronig, clefyd yr arennau cronig, imiwnocywasgedd, asplenia neu answyddogaeth y dueg, mewnblaniadau cochleaidd, gwthiadau CSF.
Mae imiwneiddiad yn helpu i atal clefyd niwmococaidd sy’n derm a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth o salwch fel niwmonia, septisaemia (gwenwyn y gwaed) a Meningitis (llid yr ymennydd), pan achosir y rhain gan y bacteriwm Streptococcus Pneumoniae. Bydd y rhan fwyaf o bobl ond angen y brechlyn unwaith. Gallwch gysylltu â Nyrs y Feddygfa i holi pa un a ddylech gael y brechlyn.
Profion Gwaed
Mae'r cynorthwy-ydd gofal iechyd yn cymryd samplau yn y ddau meddygfeydd . Ffoniwch i wneud apwyntiad.
Os oes angen prawf gwaed cyn apwyntiad ysbyty os gwelwch ewch i'r clinig fflebotomi yn yr ysbyty.
Ffisiotherapi Hunan-atgyfeiriad
Gallwch weld Ffisiotherapydd heb orfod gweld eich meddyg teulu yn gyntaf.
Gall ffisiotherapi fod yn fuddiol os ydych chi'n dioddef o boen yng ngwaelod y cefn, poen gwddf, anafiadau diweddar fel ysigiadau a straen, neu boen yn y cymalau a'r cyhyrau.
Sut i wneud hunan-atygyfeiriad
Cliciwch ar y ddolen hon am y ffurflen hunan-atgyfeirio ffisiotherapi: - Ffisiotherapi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Cliciwch ar y ddolen hon am y ffurflen hunan-atgyfeirio ffisiotherapi:
NID yw'r ffurflen hunan-atgyfeirio yn briodol ar gyfer pobl o dan 18 oed neu ar gyfer cyflyrau niwrolegol, anadlol neu gynaecolegol.
Cwblhewch y ffurflen a'i dychwelyd i'r:
Swyddfa Gweinyddu Ffisiotherapi
Adran Ffisiotherapi
Ysbyty Penrhos Stanley
Caergybi
Ynys Mon
LL65 2QA
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd Ffisiotherapydd yn darllen eich ffurflen ac yn eich rhoi ar y rhestr aros. Byddant wedyn yn cysylltu â chi ynglŷn ag apwyntiad, fel arfer yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi neu Ysbyty Cefni, Llangefni. Efallai yr anfonir cyngor ac ymarferion atoch i'w gwneud tra byddwch yn aros am apwyntiad.
Cyngor cynnar
Os teimlwch mai dim ond peth cyngor sydd ei angen ar eich cyflwr, bydd Ffisiotherapydd yn eich ffonio i drafod y ffordd fwyaf priodol o reoli'ch problem.
Ar gyfer ymholiadau yn unig, cysylltwch â'r adran ffisiotherapi ar 01407 766047/66.
Dylech gysylltu â'ch meddyg teulu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd cyffredinol.
Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan
Nid yw'n rhy hwyr i roi'r gorau i ysmygu - 0800 085 2219
Ddrwg gennym nad yw'r tabl canlynol ar gael yn y Gymraeg