Polisi Ebost Claf
Cyfeiriad ebost y Feddygfa yw derbynfa.w94015@wales.nhs.uk
Defnyddiwch yr ebost ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys neu ymholiadau cyffredinol yn unig ar ol gwirio gwybodaeth ein gwefan yn gyntaf.
Ar gyfer materion brys ffoniwch y Feddygfa.
Os ydych yn profi poen yn y frest, llewygu, anawsterau anadlu difrifol, bod gennych wendid unochrog neu leferydd aneglur neu waedu difrifol, ffoniwch 999 ar unwaith.
Er y gall fod yn bosib delio ag ymholiadau a anfonir trwy ebost, mae'n annhebygol y cynhelir trafodaeth fanwl ac efallai y cewch eich cyfeirio i wneud apwyntiad gyda'r meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Gallwch ofyn am apwytiad trwy ebost. Dywedwch wrthym beth yw'r broblem fel y gallwn ddewis y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol. Efallai y byddwn hyd yn oed yn eich cyfeirio at wasanaeth arall os yn briodol.
Byddwch yn ymwybodol eich bod yn rhoi caniatad i ni gysylltu a chi drwy ebostio'r practis. Anfonir ymateb awtomataidd atoch yn gyntaf ac yna byddwn yn anelu at gysylltu a chi o fewn 3 diwrnod gwaith. Bydd staff y feddygfa'n cyrchyr ebyst ac efallai y bydd copi yn cael ei gofnodi yn eich cofnod electronig. Efallai y byddwn yn ychwanegu eich cyfeiriad ebost at eich cofnod claf.
Nid yw cyfrifon ebost rhyngrwyd fel y rhai a ddefnyddir gan unigolion at ddibenion preifat, yn ddiogel. Mae risg y bydd eich ebost yn cael ei ryng-gipio neu ei hacio. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau cywirdeb eich gosodiadau ebost er mwyn galluogi ymateb i'ch mewnflwch ebost. Rydym yn argymell defnyddio cyfrif ebost preifat, nid cyfrif teulu neu gyfrir a rennir at ddibenion anfon ebost at y practis.
Gall eich ebost fod yn rhan o'ch cofnod meddygol parhaol felly efallai y byddwch am ystyried defnyddio iaith briodol a ffurfiau cyfeiriad wrth eu hysgrifennu. Gall ebyst gael eu harchifo am hyd ar 7 mlynedd o dan brotocol GIG Cymru.