Cedwir ymweliadau â’r cartref i gleifion na ellir disgwyl iddynt ddod i’r feddygfa gan eu bod yn rhy sâl neu fethedig i deithio. Trefnir ymweliadau yn ôl penderfyniad y Meddyg. Mae’n bosibl y bydd y Meddyg yn ffonio yn gyntaf i asesu’r sefyllfa cyn penderfynu ymweld.
Rydym yn gofyn i geisiadau am ymweliadau â’r cartref gael eu gwneud cyn 10.30am pan fydd hynny’n bosibl. Byddwch yn barod i roi rhywfaint o fanylion i'r Derbynnydd i gynorthwyo'r meddygon i gynllunio eu hymweliadau os gwelwch yn dda. Bydd y Meddyg yn ymweld yr un diwrnod a wnaed y cais (Llun i Gwener). Fel arfer, gellir dod â phlant gyda thymheredd i’r feddygfa’n ddiogel a byddant yn cael eu gweld yn gynt nag aros am ymweliad â’r cartref.