Os bydd y meddyg yn penderfynu bod angen meddyginiaeth rheolaidd arnoch, bydd yr eitemau hyn yn cael eu hychwanegu at eich rhestr ail-bresgripsiwn.
Mae’r rhan fwyaf o bresgripsiynau ar gyfer cyflenwad o 28 diwrnod, ac rydym yn argymell eich bod yn ail-archebu ar ddiwrnod 21.
Byddwn yn rhoi ffurflen gais am ail-bresgripsiwn i chi.
Ticiwch yr eitemau sydd eu hangen arnoch ar y rhestr.
Os nad oes gennych eich ffurflen gais neu os ydych wedi'i cholli, ysgrifennwch eich enw, dyddiad geni, rhif ffon cyswllt a rhestr o'r eitemau sydd eu hangen arnoch ar ddarn o bapur.
Sut ydw I...
...yn gwneud Cais am Ail-Bresgripsiwn ym Meddygfa Llanfair
Mae 4 dull o wneud cais am ail-bresgripsiwn:
- Archebwch o’ch cyfrifiadur eich hun gartref (neu ble bynnag y boch yn y byd!) - cofrestrwch ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein. www.myhealthonline-emisweb.wales.nhs.uk
- Rhowch eich ffurflen gais yn y bocs yn yr ystafell aros neu drwy'r blwch post ar y drws ffrynt os ydy'r feddygfa wedi cau; neu
- Anfonwch eich cais drwy ffacs at 01248 715826; neu
- Postiwch eich cais i'r feddygfa, rydym yn argymell y dylech bostio eich ffurflen ar ddiwrnod 18 os ydych yn defnyddio post ail ddosbarth.
Mae'r fferyllfa leol yn casglu ail-bresgripsiynau o'r feddygfa. Dywedwch wrthym os ydych yn dymuno i'ch presgripsiwn fynd yn syth i'r fferyllfa.
Os ydych yn amgau amlen parod, bydd y presgripsiwn yn cael ei bostio atoch chi.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau am ail-bresgripsiwn dros y ffôn – mae’r posibilrwydd o wneud camgymeriadau yn rhy gryf.
Peidiwch â gofyn am eitemau ail-bresgripsiwn pan fyddwch yn ymgynghori â’r meddyg neu’r nyrs. Mae’n mynd ag amser prin y feddygfa, ac yn tynnu oddi wrth y gwaith o ofalu am gleifion.
Helpwch ni i’ch helpu chi!
Bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu 48 o oriau gwaith o’r adeg i chi gyflwyno’ch cais. Os ydych yn dymuno casglu’ch meddyginiaeth o’r fferyllfa yn Llanfair caniatewch 48 awr arall.
Mae’r datganiad hwn yn aml yn arwain at ddryswch yn arbennig oherwydd bod gennym sawl dull y gallwch ei ddefnyddio i archebu’ch meddyginiaethau!
Rydym yn awgrymu eich bod yn cadw at yr amseroedd gweithredu canlynol ar gyfer casglu eich presgripsiwn ac ychwanegu 48 awr arall os ydych yn casglu eich meddyginiaeth o fferyllfa Llanfair:
- Gwneud cais dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun, casglu dydd Iau cyn 2.00pm
- Gwneud cais dydd Mawrth, casglu dydd Gwener
- Gwneud cais dydd Mercher, casglu dydd Llun
- Gwneud cais dydd Iau, casglu dydd Mawrth
- Gwneud cais dydd Gwener, casglu dydd Mercher
Nid ydym yn paratoi ail-bresgripsiynau pan fo’r feddygfa wedi cau ac nid oes gennym staff yn gweithio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na gwyliau cyhoeddus.
Os ydych wedi gwneud camgymeriad go iawn ac wedi mynd yn brin o feddyginiaeth fe fyddwn bob amser yn ceisio’ch helpu. Pan fo’r feddygfa wedi cau, bydd rhaid i chi gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau.
Pam bod angen 48 o oriau gwaith arnom i baratoi eich meddyginiaeth?
Pan fo cais yn cael ei wneud, edrychir ar eich cofnodion meddygol ar y cyfrifiadur i weld a yw’n bryd i chi gael adolygiad ac a yw’r eitemau y gofynnwyd amdanynt dal ar eich rhestr o ail-feddyginiaethau.
Os yw’n bryd am eich adolygiad byddwn yn gofyn i’r meddyg a yw’n ddiogel rhoi’r ail-feddyginiaeth cyn i chi gael eich gweld ganddo.
Os nad yw’r eitemau y gofynnwyd amdanynt ar eich rhestr o ail-feddyginiaethau, bydd rhaid i’r meddyg edrych ar eich cofnod meddygol.
Mae’r meddygon yn neilltuo amser i edrych dros geisiadau am ail-bresgripsiynau ar ddiwedd meddygfa’r bore, weithiau gall y meddyg fod yn hwyr yn gorffen neu’n delio ag achosion brys neu ymweliadau â’r cartref, a gall hyn i gyd arafu’r broses.
Mae problemau’n codi os yw’r ysbyty wedi newid eich meddyginiaeth ac heb roi gwybod i ni eto. Weithiau nid yw gwybodaeth ynghylch rhyddhau cleifion a llythyrau cleifion allanol yn cyrraedd mor sydyn ag y byddem yn ei ddymuno!
Ein staff
Gallwn eich sicrhau bod ein staff yn dilyn gweithdrefnau’r practis. Maen nhw yma i’ch helpu chi. Cofiwch ofyn os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich meddyginiaethau neu’r broses o gael ail-bresgripsiwn.
Cofiwch!
Mae meddyginiaethau yn gostus i’r Gwasanaeth Iechyd. Mae’n bwysig eich bod ond yn archebu’r eitemau sydd eu hangen arnoch!
Cofiwch archebu eitemau’n gynt pan fydd hi’n ŵyl gyhoeddus yn arbennig y Pasg a’r Nadolig.
Bydd y pecyn/brand cyffuriau’n amrywio o dro i dro ond bydd y feddyginiaeth yr un fath â’r un a ragnodwyd. Os ydych ar ail-feddyginiaeth, cofiwch y canlynol
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i’r adolygiad gyda’r meddyg yn flynyddol neu yn gynt fel y cytunwyd ar eich rhaglen driniaeth.
- Cymerwch eich meddyginiaeth yn union fel y’i rhagnodwyd gan y meddyg
- Gorffenwch y cwrs, oni bai bod y meddyg yn dweud fel arall
- Darllenwch y label yn ofalus, a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y cyfarwyddiadau ar y pecyn cyn i chi adael y fferyllfa
- Cadwch feddyginiaethau o gyrraedd plant
- Peidiwch â rhannu eich meddyginiaethau gydag aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau
- Peidiwch â chymryd hen feddyginiaethau na’u cadw; ewch â nhw i’r fferyllfa i’w gwaredu.
Ychydig o sgîl effeithiau mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael o’u meddyginiaethau ac eraill yn cael dim. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod eich meddyginiaeth yn cael effaith anarferol arnoch, ewch i weld y meddyg.
Beth sy’n digwydd pan fydd meddyg yr ysbyty yn newid eich meddyginiaeth?
Ar ôl apwyntiad claf allanol. Bydd meddyg yr ysbyty yn ysgrifennu at y feddygfa os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’ch meddyginiaeth. Bydd y feddygfa yn eich ffonio chi pan fydd y meddyg wedi adolygu’r llythyr a’r presgripsiwn yn barod i chi ei gasglu. Weithiau bydd meddyg yr ysbyty yn rhoi ‘cais rhagnodi heb fod yn un brys’ i chi ddod gyda chi i’r feddygfa o fewn 7 diwrnod. Mae angen 48 awr arnom i gael y presgripsiwn newydd hwn yn barod i chi.
Ar ôl eich rhyddhau o’r ysbyty. Bydd clerc y ward yn yr ysbyty yn anfon nodyn rhyddhau i’r feddygfa yn dweud wrthym pa feddyginiaethau a roddwyd i chi i fynd adref ac unrhyw newidiadau i’ch ail-feddyginiaeth. Pan fydd angen mwy arnoch gallwch ofyn am ffurflen gais am ail-bresgripsiwn a rhoi tic wrth yr eitemau sydd eu hangen neu ysgrifennu eich enw, dyddiad geni, rhif ffôn cyswllt a rhestr o’r eitemau sydd eu hangen arnoch ar ddarn o bapur.
Os ydych yn ansicr neu angen arweiniad, ffoniwch y feddygfa os gwelwch yn dda. Rydym yma i’ch helpu chi.
Cynlluniwch ymlaen llaw!
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwad o ail-feddyginiaethau. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod penwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Cofiwch gadw golwg ar eich cyflenwad o feddyginiaethau yn rheolaidd.
Os ydych wedi gwneud camgymeriad go iawn ac wedi mynd yn brin o feddyginiaeth fe fyddwn bob amser yn ceisio’ch helpu. Pan fo’r feddygfa wedi cau, bydd rhaid i chi gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau GIG 111.
Gallwn eich sicrhau bod ein staff yn dilyn gweithdrefnau’r practis. Maen nhw yma i’ch helpu chi. Cofiwch ofyn os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich meddyginiaethau neu’r broses o gael ail-bresgripsiwn