Safonau lleol o fewn y Feddygfa hon er lles ein cleifion. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi triniaeth a chyngor i chi. Yn dilyn trafodaeth gyda chi, byddwch yn derbyn y gofal mwyaf priodol, gan bobl gymwys. Ni roddir gofal na thriniaeth heb eich caniatâd hysbys. Er lles eich iechyd chaff f Cofiwch ofyn os na fyddwch yn deall rhywbeth.
Cynllun Cyhoeddi
Darllenwch ein Cynllun Cyhoeddi (DOCX, 59KB)
Ein Cyfrifoldeb Ni i Chi
Rydym wedi ymrwymo i roi’r gwasanaeth gorau posibl i chi.
Enwau: Bydd pobl sy’n ymwneud â’ch gofal yn rhoi eu henwau ac yn sicrhau eich bod yn gwybod sut i gysylltu â hwy. Dylai’r feddygfa arddangos arwyddion gydag enwau’r meddygon a’r nyrsys yn ymddangos ar eu hystafelloedd/iwnifform.
Ymarferydd mwyaf derbyniol: mae gan gleifion hawl i weld meddyg neu nyrs arbennig, hysbyswch staff y dderbynfa os gwelwch yn dda. Cofnodir yr wybodaeth hon yn eich cofnodion a byddwn yn ceisio cydymffurfio gydag unrhyw gais rhesymol. Efallai na fydd yn bosibl i chi weld y Meddyg o’ch dewis chi, er enghraifft os bydd ar ei gwyliau.
Cleifion heb eu gweld o fewn 3 blynedd - mae gan bob claf rhwng 16 a 75 hawl i asesiad gofal iechyd cyffredinol os nad ydynt wedi eu gweld o fewn y 3 blynedd ddiwethaf.
Cleifion 75 oed a hŷn – mae gan bob claf dros 75 hawl i asesiad gofal iechyd cyffredinol os nad ydynt wedi eu gweld o fewn y flwyddyn ddiwethaf. Efallai y bydd angen asesiad yng nghartref y claf os bydd y bod Meddyg yn teimlo ei bod yn afresymol iddynt deithio i’r feddygfa.
Amser Aros: Rydym yn cynnal system apwyntiadau yn y feddygfa hon. Rhoddir amser pryd y bydd y meddyg neu’n nyrs yn gobeithio gallu eich gweld. Ni ddylech aros mwy na 30 munud yn yr ystafell aros heb dderbyn eglurhad am yr oedi.
Mynediad: Byddwch yn gweld meddyg yn fuan mewn argyfwng; ac fel arall o fewn 48 awr. Byddwn yn trefnu ymweliad â’r cartref fel bo’n briodol i’r sawl sy’n rhy sâl neu fregus i ddod i’r feddygfa.
Ffôn: Byddwn yn ateb y ffôn yn brydlon a sicrhau bod digon o staff ar gael i wneud hyn. Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau i gadarnhau eich hunaniaeth ac i ddiogelu eich gwybodaeth.
Canlyniadau profion: Os byddwch angen profion neu belydr-x, byddwn yn eich cynghori pryd a sut i gael y canlyniadau.
Parch: Bydd cleifion yn cael eu trin fel unigolion a phartneriaid gofal iechyd, heb ystyried eu gwreiddiau ethnig neu gred ddiwylliedig neu grefyddol.
Gwybodaeth: Byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn am y gwasanaethau a gynigir. Gwneir pob ymdrech i sicrhau eich bod yn derbyn yr wybodaeth honno sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eich iechyd a’r gofal a gynigir.
Hybu iechyd: Bydd y feddygfa’n cynnig cyngor a gwybodaeth i gleifion ar y camau y gellir eu cymryd i hybu iechyd da ac i osgoi salwch. Hefyd, hunangymorth ar gyfer mân anafiadau y gellir eu gwneud heb gyfeirio at y meddyg.
Polisi Iaith Gymraeg: Os byddai’n well gennych ddelio gydag aelod o’r tîm sy’n siarad Cymraeg ar unrhyw adeg, cofiwch ofyn.
Cofnodion iechyd: Mae’r meddygon ac aelodau o’r tîm o weithwyr proffesiynol iechyd sy’n gofalu amdanoch yn cadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal y byddwch yn ei dderbyn. Bydd yr wybodaeth hon naill ai’n cael ei chofnodi neu’n cael ei chadw ar gyfrifiadur. Yna, defnyddir y cofnodion hyn i arwain a rheoli’r gofal y byddwch yn ei dderbyn.
Cyfrinachedd: Cedwir eich cofnodion meddygol yn gwbl gyfrinachol. Ni throsglwyddir gwbodaeth heb eich câniatad chi os nad yw o fewn y GIG, trwy fframwaith cyfreithiol neu er lles y cyhoedd. Efallai y bydd rhywfaint o ddata cleifon dienw yn cael ei rannu at bwrpas iechyd y cyhoedd ac archwilio, ymchwil dysgu a hyfforddi. Mae'r feddygfa hon wedi cofrestu o dan y Ddeddf Amddiffyn Data. Mae'n arferol ac yn ofynnol yn gyfreithiol bod holl staff yn cynnal cyfrinachedd cofnodion cleifion.
Mynediad i’ch cofnodion iechyd: Mae gennych hawl gweld eich cofnodion iechyd. Mae gennych hawl i naill ai weld eich cofnodion neu i dderbyn copi. Mewn amgylchiadau arbennig, bydd eich hawl i weld rhai manylion yn eich cofnodion iechyd wedi’i gyfyngu er eich lles eich hun neu er lles hanfodol eraill.
Os hoffech wybod mwy am ddefnyddio’r wybodaeth, gallwch gysylltu â’r feddygfa neu darllen y "privacy notice".
Polisi Gwarchodwr
Mae gan bob claf hawl cael gwarchodwr yn bresennol i unrhyw ymgynghoriad, archwiliad neu weithdrefn ble maent yn teimlo bod angen. Ble'n bosibl, byddwn yn gofyn i chi wneud y cais hwn wrth drefnu eich apwyntiad fel y gellir gwneud trefniadau a pheidio achosi oedi mewn unrhyw ffordd. Pan na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn ceisio cynnig gwarchodwr ffurfiol ar gais. Fodd bynnag, efallai y bydd yn angenrheidiol ail-drefnu eich apwyntiad yn achlysursol.
Efallai y bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol angen i warchodwr fod yn bresennol ar gyfer ymgynghoriadau arbennig yn unol â'n polisi gwarchodwr.
Gofalwyr
Ffurflen Gofalwyr: ar gyfer oedolion sy’n darparu gofal rheolaidd a sylweddol i berson anabl, corfforol neu feddyliol.
Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio Gofalwr fel “unrhyw un o unrhyw oedran, sy’n darparu gofal a chymorth di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog sy’n anabl, yn sâl yn gorfforol neu’n feddyliol, neu’n cael ei effeithio gan gam-ddefnyddio sylweddau”.
Os dymunwch i statws ‘Gofalwr’ gael ei ychwanegu at eich Cofnodion Meddygol, gofynnwch am y ffurflen yn y Dderbynfa a dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’r feddygfa.
Myfyrwyr Meddygol
Mae'r Practis yn darparu hyfforddiant i fyfyrwyr meddygol. Fel rhan o'u hyfforddiant, mae'r myfyrwyr yn treulio amser yn eistedd i mewn gyda'r meddygon a'r nyrsys yn ystod ymgynghoriadau. Os nad ydych am i'r myfyriwr fod yn bresennol yn ystod eich ymgynghoriad, dywedwch wrth y Meddyg neu'r nyrs a bydd y myfyriwr yn gadael. Weithiau bydd y myfyriwr yn gweld cleifion i ddechrau ac yna bydd y meddyg yn mynychu. Byddwch yn cael gwybod os yw hyn yn wir pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad ar ôl cyrraedd.
Eich Cyfrifoldeb i Ni
Gadewch i ni wybod os byddwch yn newid eich enw, statws, cyfeiriad neu rif ffôn.
Os byddwch yn symud o ardal y feddygfa, efallai y byddwn yn gofyn i chi gofrestru gyda meddyg sy’n agosach i’ch cyfeiriad newydd.
Gwnewch eich gorau i gadw apwyntiadau os gwelwch yn dda. Hysbyswch ni gynted â phosibl os na fyddwch yn gallu bod yn bresennol, neu bydd cleifion eraill yn gorfod aros yn hirach.
Efallai na fyddwch angen gweld meddyg bob amser; efallai y byddai’n fwy priodol i chi weld yr ymarferydd nyrsio, nyrsys y feddygfa neu cynorthwy-wyr gofal iechyd. Rhowch cymaint o wybodaeth i'r croesawyr ag y byddwch yn gyffyrddus i wneud os gwelwch yn dda, fel y gallent drefnu eich apwyntiad gyda'r aelod mwyaf addas o dîm y feddygfa. Cofiwch fod popeth y dywedwch wrth unrhyw aelod o staff y feddygfa yn gyfrinachol.
Peidiwch â gofyn i’r meddyg am ymweliad â’r cartref oni bai bod y claf yn rhy sâl i ymweld â’r feddygfa.
Cadwch yr alwad ffôn yn gryno ac osgowch ffonio yn ystod amser prysur y bore (8.30-11.00 y bore) ay gyfer materion difrys.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw ffonio am ganlyniadau profion.
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 48 awr rhwng gofyn am ail-bresgripsiwn a’i gasglu a 5 diwrnod o'r derbynfa Dwyran
Os byddwch yn derbyn ail-bresgripsiwn, sicrhewch eich bod yn trefnu adolygiad gyda’r meddyg bob blwyddyn neu’n gynt fel y cytunwyd o dan raglen eich triniaeth.
Gofynnwn i chi drin y meddygon a staff y feddygfa gyda pharch a chwrteisi bob amser.
Cyfryngau Cymdeithasol – Ni fydd y feddygfa yn ymateb i sylwadau a wneir ar gyfryngau cymdeithasol, ond byddwn yn cysylltu â chleifion y canfuwyd eu bod yn gwneud sylwadau difrïol neu sarhaus.
Ymddygiad cleifion
Bydd unrhyw glaf sy’n dreisiol neu’n ymddwyn yn fygythiol tuag at unrhyw un o’r meddygon neu aelodau o staff yn cael ei dynnu oddi ar restr cleifion y feddygfa ar unwaith a hysbysir yr heddlu. Yna, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ofal y claf hwnnw.
Weithiau, byddwn yn gofyn i glaf gofrestru gyda meddygfa arall, er enghraifft, os byddwn yn teimlo bod perthynas y meddyg/claf wedi torri i lawr y tu hwnt i adfer neu os bydd y claf yn methu apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw yn rheolaidd. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn ysgrifennu ac yn egluro’r rheswm dros ein penderfyniad ac yn egluro sut i gofrestru yn rhywle arall.
Safleoedd Cyfryngau Cymdeithasol
Ni fydd y feddygfa yn ymateb i sylwadau a wneir ar wefannau cymdeithasol e.e. Facebook, ond efallai y gwnawn gysylltu yn uniongyrchol a chleifion sydd yn gwneud sylwadau difrïol neu sarhaus.