Y Feddygfa
Mae’r feddygfa’n cynnig gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan gytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ym 1976 agorwyd meddygfa â adeiladwyd yn bwrpasol yn Nwyran ac ym 1980 agorwyd y Ganolfan Iechyd yn Llanfairpwll. Mae’r tîm meddygol yn gwasanaethu cymuned De Orllewin Ynys Môn yn y ddwy ganolfan yma.
Meddygon y Bartneriaeth
(partneriaeth di-gyfyngedig)
Dr Alun Gwyn Rhys Griffiths (dyn) (siarad Cymraeg)
MBBCh (Caerdydd) 1989 DRCOG DFFP MRCGP Uwch Bartner
Dr Karen Lynne Parry Roberts (dynes) (siarad Cymraeg)
MBBCh (Caerlŷr) 2001 MRCGP
Dr Nia Emma Allen (dynes) (siarad Cymraeg)
MBBCh (Caerdydd) 2005 MRCGP DCH DFSRH
Dr Manon Williams (dynes) (siarad Cymraeg)
MBChB (Manceinion) 2011 MRCGP
Dr Carwyn Rhys Owen (dyn) (siarad Cymraeg)
MBBCh (Caerdydd) 2012 MRPharm 2007 MRCGP
Dr Nia Roberts (dynes) (siarad cymraeg)
MBChB (Lerpwl) 2008 MRCGP
Dr Tomos Hywel (dyn) (siarad cymraeg)
MBBCh (Caerdydd) 2014 MRCGP
Tîm y feddygfa
Rheolwraig y Feddygfa Linda West
Linda sy’n gyfrifol am reoli a datblygu’r feddygfa.
Uwch Ymarferydd Nyrsio
Janice Mercer-Edwards RGN, Dip.n, BSc (hons)
Mae gan y practis Uwch Ymarferydd Nyrsio rhan-amser, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r meddygon, gan ddarparu apwyntiadau ‘ar y diwrnod’ i gleifion sy’n gofyn am gael eu gweld yn gyflym. Mae ein Uwch Ymarferydd Nyrsio yn nyrs gofrestredig, sydd wedi cwblhau astudiaethau lefel Meistr Uwch mewn prifysgol ac yn meddu ar hyfforddiant clinigol eang i ymestyn swyddogaeth arferol nyrs gofrestredig. Oherwydd eu gwybodaeth estynedig, arbenigedd ac addysg, gall ymarferwyr nyrsio berfformio asesiadau corfforol uwch, gwneud ceisiadau am brofion diagnostig a dehongli canlyniadau’r profion hyn, penderfynu ar y driniaeth orau a rhagnodi meddyginiaethau a therapïau eraill os bydd angen.
Mae gan Janice sgiliau mewn mân salwch, megis pesychu llym a heintiau ar y frest, pigyn clust, heintiau wrinol, dolur gwddf, brechau yn ogystal â meysydd o arbenigedd maen nhw wedi hyfforddi'n benodol ar eu cyfer. Cyflwynwyd y gwasanaeth hwn i ddechrau yn Ebrill 2005 ac mae’n parhau i ymestyn wrth i amser y meddygon gael ei gyfeirio at ymdrin â chyflyrau mwy cymhleth.
Yn gyffredinol, maen nhw’n gallu gwneud y rhan fwyaf o’r hyn bydd MT yn ei wneud mewn ceisiadau ‘ar y diwrnod', ac os bydd yr UYN yn teimlo dylid eich cyfeirio at feddyg, ni fydd disgwyl i chi drefnu apwyntiad arall.
Nyrsys y Feddygfa
Gillian Williams |
RGN Dip PP BSc (anrh) Presgripsiynydd Nyrs Practis |
Iona Jones |
RN BSc |
Emma Morris |
RN Dip |
Mae nyrsys y feddygfa yn uwch nyrsys sydd ar gael trwy apwyntiad i gynnig cyngor iechyd ac i gynnal amrywiol dasgau, gan gynnwys:
- Cymorth arbenigol ar gyfer cleifion Diabetes, dioddefwyr Asthma, Problemau Calon Cronig, Clefyd Pwlmonaidd Ataliol Cronig
- Cyngor rhoi’r gorau i ysmygu
- Imiwneiddio plant ac oedolion
- Profion ceg y groth
- Cyngor atal cenhedlu ac iechyd rhywiol
- Rhwymynnau a thynnu pwythau
- Archwiliadau iechyd
- Cyngor teithio a brechlynnau
- Rhai gweithdrefnau mân-lawdriniaeth
Er mwyn sicrhau eich bod yn gweld y Nyrs/Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd mwyaf addas, byddai’n help petaech yn gadael i’r Derbynnydd wybod pa wasanaeth rydych ei angen.
Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd Rhian Lazare, Karen Jones, Elsie Owen
Mae’r Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd yn cynnal amryw o dasgau fel rhan o’r tîm nyrsio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymryd samplau gwaed ar gyfer profion, profion Gwrth-geulo
- Cymryd pwysau gwaed, pwyso a mesur taldra
- Profion ECG
- Rhwymynnau
- Pigiadau B12
- Ffliw, Pneumococcal a Brechiadau Eryr
Staff y Dderbynfa
Llanfairpwll |
Helen Tudor Williams (Arweinydd Tîm Derbynfa)
Margaret Roberts Samantha Thomas Gwen Roberts Amy Jones Nia Williams Sian Jones Elsie Owen
|
Dwyran |
Dawn Granton (Arweinydd Tîm Derbynfa) Susan Roberts Diane Jones Staff llanw - Carys Pritchard Sian Thomas Mandy Berry
|
Mae staff y dderbynfa ar gael i drefnu apwyntiadau brys ac arferol, i gyflwyno ail bresgripsiynau, delio gyda phob ymholiad a chynnig cymorth.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i holl staff gynnal cyfrinachedd gyda chofnodion cleifion.
Dosbarthwyr Dwyran |
Karen Roberts Sandra Williams Gwenfron Griffiths Cenys Kotkowicz Bethan Roberts
|
Mae’r dosbarthwyr yn gyfrifol am baratoi a dosbarthu meddyginiaethau ar bresgripsiwn ynghyd â threfniadaeth ddyddiol y Fferyllfa yn Dwyran.
Ysgrifenyddes Samantha Thomas
Mae'r Ysgrifenyddes yn gyfrifol am deipio gohebiaeth ac adroddiadau meddygol.
Staff cysylltiol eraill
Yn ogystal â gwasanaethau a ddarperir gan y feddygfa, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda darparwyr gofal iechyd eraill yn y gymuned. Cysylltwch â’r feddygfa i gael manylion pellach.
Fferyllydd Clinigol
Mae Fferyllwyr Clinigol yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwys iawn sy’n hyfforddi am flynyddoedd lawer i ddod yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau a gallant hefyd fod yn gymwys i ragnodi meddyginiaeth. Mae’r Fferyllydd Clinigol yn darparu cymorth gyda phroblemau meddygol hir-dymor fel asthma, adolygu eich anadlyddion a’ch techneg, rheoli pwysedd gwaed, cymorth meddyginiaeth gwrthgeulo trwy’r geg, dechrau meddyginiaeth arbenigol am y tro cyntaf, adolygu eich meddyginiaeth a gofyn am brofion gwaed.
Nyrsys Ardal - 03000 851524
Mae’r tîm nyrsio ardal yn gofalu am gleifion o bob oed nad ydynt yn gallu mynychu'r feddygfa a sydd angen eu nyrsio yn y cartref. Asesir anghenion pob claf yn drwyadl wrth ryddhau o’r ysbyty a threfnir eu gofal/triniaeth fel bo’n briodol.
Mae nyrsys ardal yn nyrsys cyffredinol cofrestredig profiadol gyda thystysgrif, diploma neu radd mewn nyrsio ardal.
Ymwelwyr Iechyd - 03000 853174
Rôl yr Ymwelydd Iechyd yw cefnogi teuluoedd gyda phlant cyn oed ysgol ar bob agwedd o fagu teulu iach gan gynnwys deiet a bwydo, datblygiad plant, imiwneiddiadau, ymddygiad ac amddiffyn plant. Er mwyn amddiffyn gofal iechyd yn y dyfodol, sicrhewch fod eich plentyn yn derbyn pob imiwneiddiad plentyndod os gwelwch yn dda pan fydd yn derbyn gwahoddiad yn unol â Rhaglen Imiwneiddio Plentyndod Cenedlaethol.
Bydwraig - 03000 853178
Darperir gofal o'r apwyntiad cyn-geni cyntaf a thrwy feichiogrwydd, genedigaeth a hyd dilyn esgor. Cysylltwch i drefnu'r apwyntiadau.
Awdioleg a gofal clust
Bydd yr Awdiolegydd yn gweld cleifion ac anawsterau clyw newydd neu canu yn y clustiau (Tinitws), pendro a achosir gan symudiadau pen sy'n para munud neu lai, achosion tynnu cwyr clust cymhleth (llawdriniaeth glust flaenorol, oed 5-10, neu hanes o heintiau clust).
Mae'r tim awdioleg yn darparu gwasanaeth tynnu cwyr clust cyfyngedig i gleifion â blaenoriaeth dros 11 oed sydd wedi methu a hunan-reoli cwyr clust neu nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaeth yn rhywle arall.
Noder: Mae rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth hwn.