Dymunwn gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion. Hoffem glywed eich barn – beth rydych yn ei hoffi am y gwasanaeth neu lle gall pethau fod yn well. Siaradwch â derbynyddion neu gliciwch yma i lawrlwytho ffurflen awgrymiadau cleifion (DOC, 26KB), dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at yr ymarfer.
Os oes gennych chi bryder am y gwasanaeth a gawsoch gan y meddygon neu’r staff sy’n gweithio yn y practis yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.
Bydd unrhyw adborth, awgrymiadau, canmoliaethau neu bryderon o gymorth i ni wella’r gwasanaeth a gynigiwn.
Rydym eisiau rhoi gwasanaeth da i chi, ond ambell waith mae rhywbeth yn gallu mynd o’i le ac efallai y byddwch eisiau cwyno neu ddweud wrthym am eich pryderon neu awgrymu gwelliannau.
Sut i fynegi pryder
Ein gobaith ydy y gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau ar yr adeg y maent yn codi ac efo’r unigolyn dan sylw. Os na ellir datrys eich problem chi yn y ffordd yma ac os dymunwch wneud cwyn ffurfiol, hoffem i chi roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd, gan y bydd hyn yn ein helpu i ganfod beth ddigwyddodd.
Gallwn eich sicrhau na fydd mynegi pryder yn cael ei ystyried yn negyddol ac ni fydd yn cael effaith niweidiol ar eich gofal yn y dyfodol.
Os ydych yn dymuno mynegi pryder, ffoniwch neu ysgrifennwch, os gwelwch yn dda, at Linda West, Rheolwr y Practis, neu unrhyw un o’r meddygon. Efallai y byddai’n well gennych drafod eich pryder wyneb yn wyneb. Os felly, gellir trefnu apwyntiad efo Linda West neu Dr Rhys Griffiths, yr Uwch Bartner.
Os bydd angen edrych ar eich cofnodion meddygol a gwybodaeth bersonol bydd hyn yn cael ei gyfyngu i’r hyn sy’n berthnasol i ymchwilio i’ch pryder a dim ond yn cael ei ddatgelu i bobl sydd angen gwybod er mwyn ymchwilio i’ch pryder.
Gallwch hefyd fynegi’ch pryder wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Y Tîm Pryderon, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW.
Ffôn: 01248 384194 E bost: TimPryderon.bcu@wales.nhs.uk
Pwy all fynegi pryder?
Os nad ydych chi’n gallu mynegi’ch pryder, yna gall rhywun arall megis perthynas neu gyfaill wneud hynny ar eich rhan. Bydd yn rhaid i chi roi'ch cydsyniad ysgrifenedig.
Os nad yw claf yn gallu rhoi cydsyniad ysgrifenedig, efallai y bydd angen dangos mai chi yw’r perthynas agosaf neu fod y claf wedi cytuno. Gallwch hefyd fynegi pryder am ofal a roddwyd i glaf sydd wedi marw.
Oes angen cymorth arnoch i fynegi pryder?
Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch i fynegi pryder gallwch gysylltu â’r Cyngor Iechyd Cymuned, Uned 11 Llys Castanwydden, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FH Ffôn: 01248 679284
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mynegi pryder?
Byddwn yn cydnabod eich pryder o fewn 2 diwrnod gwaith.
Yna byddwn yn ymchwilio i’ch pryder i ganfod beth ddigwyddodd. Byddwch yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod gwaith.
Os nad yw’n bosib cwblhau’r ymchwiliad o fewn y cyfnod hwn, byddwn yn eich hysbysu o’r rheswm dros oedi a phryd y gallwch ddisgwyl cael ateb.
Efallai y byddwn yn eich gwahodd i gyfarfod â ni i drafod eich pryderon os ydym yn teimlo y byddai hyn yn helpu i ddatrys materion yn gynt.
Beth os byddwch chi’n dal yn anfodlon?
Os ydych chi’n dal yn anfodlon efallai yr hoffech gyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gellir cysylltu ag ef drwy ffonio 0845 601 0987 (codir am y galwadau ar y gyfradd leol) neu drwy e-bost ask@ombudsman-wales.org.uk Ei gyfeiriad post ydy: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ a’r wefan yw www.ombudsman-wales.org.uk
Cedwir cofnod o’ch pryder am 10 mlynedd.