Profion Gwaed
Mae angen profion gwaed i hwyluso diagnosis, ond, hefyd i alluogi'r meddygon teulu a nyrsys i wirio effaith meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Gofynnit i gleifion gael profion gwaed cyn adolygiad blynyddol ar gyfer cyflyrau fel Diabetes.
Dylid trefnu apwyntiadau gyda'n Cynorthwy-wyr Gofal Iechyd. Ffoniwch i wneud apwyntiad. Os oes angen prawf gwaed arnoch cyn apwyntiad claf allanol a'ch bod wedi cael ffurflenni gwaed, gallwch hefyd fynd i'r clinig fflebotomi cleifion allanol yn yr Ysbyty.
Canlyniadau Profion
Ffoniwch i gael canlyniadau profion os gwelwch yn dda. Hyfforddwyd y Derbynyddion i roi canlyniadau prawf ac i ddweud pa gamau eraill y gofynnodd y meddyg amdanynt.
Mae’n cymryd amser i ganlyniadau prawf ein cyrraedd, felly, peidiwch â ffonio cyn y gofynnwyd i chi wneud hynny. Dylid cyfeirio ymholiadau am brofion a gynhaliwyd yn yr ysbyty i’r ysbyty, nid y feddygfa.
Ffoniwch neu galwch i mewn am eich canlyniadau eich hun, gan na fyddwn yn eu rhoi i unrhyw un arall heb eich caniatâd.
Ffoniwch yn hwyrach yn y dydd i gadw'r llinellau ffôn yn rhydd yn gynnar yn y bore i'r rhai sy'n sâl gyda phroblemau brys, diolch