111 Gwasg 2 - Cefnogaeth iechyd meddwl i bawb
Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles.
Felly os oes angen i chi siarad â rhywun - neu os ydych chi'n poeni am rywun annwyl - ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2 i siarad ag aelod ymroddedig o'n tîm iechyd meddwl.
Mae Gwasanaeth GIG 111 Opsiwn 2 bellach ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos - yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl i bobl o bob oed ar draws Gogledd Cymru. Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl.
Ond mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i'r Adran Achosion Brys (A&E) agosaf.