Gall cleifion ffonio i siarad gyda Meddyg neu Nyrs y Feddygfa yn ystod oriau agor y feddygfa. Os na fydd y Meddyg neu’r Nyrs ar gael i gymryd yr alwad ar unwaith, bydd y croesawydd yn cymryd neges ac yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl galwad yn ôl. Hefyd, efallai y byddant yn awgrymu eich bod yn ffonio yn ôl ar ddiwedd apwyntiadau’r bore.