Back to News
Arolwg Cleifion - diolch!
Posted or Updated on 7 Sep 2023
Arolwg Cleifion – diolch! 4 Ebrill 2023
Diolch i’r cleifion a ymatebodd i’n harolwg cleifion
Dywedodd 86.5% o gleifion eu bod yn hapus
gyda'n gwasanaeth cyffredinol
Dyma’r newidiadau rydym wedi’u gwneud:
- O fis Ebrill ymlaen, rydym yn agor ein llinellau ffôn o 8.00am ar gyfer trefnu apwyntiadau a galwadau brys.
- Os yn bosibl, ffoniwch ar ôl 10.30am i gael canlyniadau ac ymholiadau cyffredinol. Ffonau ‘fferyllfa’ yn agor am 10.30yb.
- Rydym wedi ailgyflwyno nodiadau atgoffa ar gyfer apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw.
- Mae ein Derbynyddion wedi cwblhau hyfforddiant llywio gofal. Nid oes angen i bawb sy'n ffonio weld meddyg teulu - bydd ein Derbynyddion yn eich helpu i weld y person cywir o fewn y tîm.
- Cynyddwyd oriau derbynfa i ddarparu gwell gwasanaeth ffôn amser cinio.
- Mae gan gleifion yr opsiwn i ddewis ymgynghoriadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gyda meddygon teulu.